Isaiah 55

Gwahoddiad yr Arglwydd

1“Hei! Os oes syched arnoch chi, dewch at y dŵr!
Os nad oes gynnoch chi arian, dewch beth bynnag!
Prynwch a bwytwch.
Dewch! Prynwch win a llaeth heb arian – mae am ddim!
2Pam gwario'ch arian ar rywbeth sydd ddim yn fwyd,
a'ch cyflog ar rywbeth sydd ddim yn bodloni?
Gwrandwch yn ofalus arna i!
Cewch fwyta bwyd blasus, a mwynhau danteithion.
3Gwrandwch arna i, a dewch yma.
Os gwnewch chi wrando, cewch fyw!
Bydda i'n gwneud ymrwymiad hefo chi
fydd yn para am byth a
fel y bendithion sicr wnes i eu haddo i Dafydd. b
4Gwnes i e yn dyst i bobloedd,
yn arweinydd yn rheoli gwledydd.”
5Byddi di'n galw ar genedl wyt ti ddim yn ei nabod,
a bydd cenedl sydd ddim yn dy nabod di
yn rhedeg atat ti – o achos yr Arglwydd dy Dduw,
Un Sanctaidd Israel sydd wedi dy anrhydeddu di.
6Dewch at yr Arglwydd tra mae ar gael!
Galwch arno tra mae'n agos!
7Rhaid i'r euog droi cefn ar eu ffyrdd drwg,
a'r rhai sy'n creu helynt ar eu bwriadau –
troi'n ôl at yr Arglwydd, iddo ddangos trugaredd;
troi at ein Duw ni, achos mae e mor barod i faddau.
8Dydy fy mwriadau i ddim yr un fath â'ch bwriadau chi,
a dydy fy ffyrdd i ddim yr un fath â'ch ffyrdd chi

—yr Arglwydd sy'n dweud hyn.
9Fel mae'r nefoedd gymaint uwch na'r ddaear,
mae fy ffyrdd i yn uwch na'ch ffyrdd chi,
a'm bwriadau i yn well na'ch bwriadau chi.
10Ond fel y glaw a'r eira sy'n disgyn o'r awyr
a ddim yn mynd yn ôl nes dyfrio'r ddaear
gan wneud i blanhigion dyfu
a rhoi hadau i'w hau a bwyd i'w fwyta,
11felly mae'r neges dw i'n ei chyhoeddi:
dydy hi ddim yn dod yn ôl heb wneud ei gwaith –
mae'n gwneud beth dw i eisiau,
ac yn llwyddo i gyflawni ei phwrpas.
12Ie, byddwch chi'n mynd allan yn llawen
ac yn cael eich arwain mewn heddwch.
Bydd y mynyddoedd a'r bryniau yn bloeddio canu o'ch blaen,
a'r coed i gyd yn curo dwylo.
13Bydd coed pinwydd yn tyfu yn lle drain,
a llwyni myrtwydd yn lle mieri.
Byddan nhw'n sefyll yno i atgoffa pobl am yr Arglwydd,
fel arwydd parhaol fydd ddim yn cael ei dynnu i lawr.
Copyright information for CYM